Sbectrwm

Sbectrwm
Mathcyflwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw ar yr amrywiaeth o liwiau sy'n bresennol mewn rhai ffynonellau golau ydy sbectrwm (lluosog: sbectra). Mae'r sbectrwm yn dod yn amlwg pan wahanir lliwiau (amleddau)'r golau gan ddyfais megis prism. Mae golau gwyn (megis golau'r haul) yn gymysgedd o bob lliw, felly mae ganddo sbectrwm di-fwlch neu gyfan. Ond mae gan rai ffynonellau golau eraill, megis lampau sodiwm neu LED, sbectrwm rhannol sy'n cynnwys dim ond rhai amleddau o olau gyda bylchau rhyngddynt.

Sbectrwm gweladwy

Mae sbectrwm allyriant rhai sylweddau yn cyfeirio at sbectrwm y golau y byddent yn ei fwrw allan, yn arbennig pan gânt eu poethi, ac mae eu sbectrwm amsugniad yn cyfeirio at y lliwiau sy'n gallu cael ei amsugno ganddynt. Oherwydd bod sbectra gwahanol gan sylweddau gwahanol, gellir darganfod pa sylweddau sy'n bresennol mewn sampl cemegol trwy edrych ar ei sbectrwm; mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer pethau pell, megis mewn seryddiaeth, na allent gael eu mesur yn uniongyrchol. Sbectrosgopeg ydy enw'r maes cyffredinol hwn o wyddoniaeth.

Yn ogystal â defnydd gwyddonol y gair, fe'i defnyddir yn drosiadol i gyfeirio at rywbeth sy'n amrywio rhwng dau eithaf, megis "sbectrwm" barn gwleidyddol. Roedd hefyd gyfrifiadur cartref cynnar yng Ngwledydd Prydain a enwyd yn "ZX Spectrum", gyda logo o sbectrwm arno.


Developed by StudentB